Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
20 Ionawr 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(15 munud)
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(60 munud)
NDM5922 David Melding (Canol De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016.
Gosodwyd ymateb Comisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
Ymateb Llywodraeth Cymru
Ymateb Comisiwn y Cynulliad
Ymateb y Pwyllgor Busnes
(60 munud)
NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;
2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.
Adolygiad annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.
Fairness and Freedom in Higher Education (Saesneg yn unig)
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu biliau cyfleustodau.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:
'fel drwy gyflwyno grant cymorth byw i fyfyrwyr.'
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn condemnio'r toriad difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
(60 munud)
NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:
a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;
b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;
c) darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a
d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ar ddechrau is-bwynt 3c), mewnosoder:
'adolygu'r dystiolaeth ar gyfer'
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
Hyrwyddo cynlluniau i liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
(30 munud)
NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen)
Strategaeth genedlaethol ar ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2016